Cyfrol rodd, glawr caled, hynod drawiadol ei diwyg yw hon, syn gwneud yn union beth y maer teitl yn ei awgrymu adrodd 10 o straeon on hanes ni fel Cymry, or canol oesoedd hyd at y cyfnod modern. Mae'r straeon wediu hysgrifennu gan yr awdur ar sylwebydd gwleidyddol talentog Ifan Morgan Jones, au darlunio gan yr arlunydd cyfoes Telor Gwyn, y naill yn enillydd Llyfr y Flwyddyn 2020 ar llall wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Tir na n-Og am ei lyfr cyntaf hefyd.
Wedi dweud hynny, maer gyfrol yn gymaint mwy na llyfr stori. Yn ogystal ā chyflwyno hanesion Gwenllian, Owain Glyndr, Barti Ddu, Dic Penderyn, Alfred Russel Wallace, Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, terfysgoedd hil y ganrif ddiwethaf, Eileen Beasley, Aber-fan a Datganoli, down i sylweddolin fuan mai cyflwyniadau go gignoeth a gonest or hanesion hynny a geir yma. Does dim cuddio pechodau na rhamantu. Maer awdur yn ei dweud hi fel y mae hi, gan ddehonglir hanes yn ei ddull Cymreig arbennig ei hun, drwy bwysleisio, er enghraifft, mor ddidrugaredd a chreulon oedd rhai o weithredoedd y mōr-leidr Barti Ddu, ac nad oeddem ni fel Cymry'n ddiniwed yn ein hymwneud ā materion megis caethwasiaeth a hiliaeth chwaith. Efallai fod nifer or hanesion a gyflwynir yn y gyfrol yn gyfarwydd i ni i ryw raddau, ond maer wedd a roddir arnynt gan yr awdur yn cynnig rhyw ffresni a gonestrwydd cyfoes a chyfoethog. Aeth atin fwriadol iawn i ddewis a dethol ei ddeunydd, gydar bwriad o wneud iawn am rai anghysonderau yn y gorffennol, megis anghofio am gyfraniad unigolion fel Alfred Russel Wallace gwyddonydd o Gymru a fun gymaint o gefn i Charles Darwin yn ei gyfnod.
Yn ychwanegol at bob hanesyn cawn ddwy dudalen bob tro syn cyflwyno ffeithiau ategol am ddigwyddiadau a chymeriadau allweddol eraill yn ein hanes ni fel Cymry, or Mabinogi i dywysogion Cymru, mōr-ladrata a chaethwasiaeth, Cymru ddiwydiannol, gwyddonwyr a dyfeiswyr o Gymru, yn ogystal ār brwydrau ar ffigyrau gwleidyddol a fun rhan on hanes mwy diweddar hefyd. Mae yma fapiau defnyddiol Cymru Drwyr Oesoedd syn dangos y modd y mae ffiniau Cymru wedi newid ers y 6ed ganrif, ac amserlin trawiadol syn ein harwain o tua 2,500 CC hyd at heddiw, heb sōn am restr o eiriau defnyddiol syn ddiweddglo ir gyfrol. Ac maer cyfan wedii ddarlunio mewn arddull gartwnaidd fodern, foel ond cwbl addas, gan Telor Gwyn.
Dyma gyfrol hanfodol ar gyfer unrhyw silff lyfrau, beth bynnag eich oed, a chyfrol bwysicach fyth wrth i fwy o bwyslais gael ei roi ar ddysgu hanes Cymru yn ein hysgolion yn sgil y cwricwlwm newyddd. Ac os ydyw eich silffoedd chi eisoes yn llawn, cofiwch fod y gyfrol hefyd ar gael fel e-lyfr. -- Sioned Lleinau @ www.gwales.com