Wyt tin un syn cwestiynu popeth? Maen wir bod ein byd ni yn ddrysfa o wybodaeth gwybodaeth gywir ac anghywir, yn newyddion go iawn, ac yn newyddion ffug. Mae cymaint o ffyrdd gwahanol o ddod o hyd ir wybodaeth sydd ei hangen arnon ni. Maer gyfrol liwgar hon yn ein cyflwyno i sgiliau ymchwil gan roi cyfle i ni ddod o hyd in ffordd drwyr ddrysfa o wybodaeth gan ddarganfod ffeithiau gwir a chytbwys drosom ein hunain.
Wrth fynd drwyr gyfrol fer hon rydym yn dysgu sut i ddadansoddi'n rhesymegol a phwyllog. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o ba mor ddibynadwy yw'r geiriau rydym yn eu darllen au clywed. Ble allwn ni fynd i gael gwybodaeth annibynnol a dibynadwy ar y we? Pa gwestiynau ddylen ni fel ymchwilwyr ifanc fod yn eu holi? Beth yw ffynhonnell gynradd ac eilradd? A beth yn y byd yw newyddion ffug?
Dyma rai or cwestiynau syn cael eu hateb wrth i ni bori drwyr gyfrol ddefnyddiol hon syn hawdd iawn ei darllen, yn llawn delweddau lliwgar, ac syn cynnwys gwybodaeth newydd a difyr ar bob tudalen. Roeddwn i'n arbennig o hoff o'r rhan 'Geiriau i'w cofio', gan fod diffiniadau cryno a dealladwy ar gyfer y termau sy'n codi yn y testun ynddi, ac mae'r canllaw 'Cadw'n ddiogel ar-lein' yn berthnasol i bawb o bob oed.
Mae yma weithgareddau i ti gael eu gwneud dy hun hefyd, o greu ffeil o ffeithiau am droseddau, i greu ffeithluniau, ac i ddefnyddio dy sgiliau ymchwil i ddod o hyd i atebion i gwestiynau go iawn.
Sut all y geiriau rwyt tin eu hysgrifennu ddylanwadu ar bobl eraill? Pa fath o eiriau syn tynnu dy sylw di a pham? Mae un peth yn sicr os wyt ti eisiau bod yn ymchwilydd, mi fyddi di wrth dy fodd ār gyfrol hon.
Cer ati i ddarganfod yr atebion i gyd a meddwl drosot dy hun, a phob lwc gydar ymchwilio! -- Hawys Roberts @ www.gwales.com