Un peth syn sir o wneud i blant bach chwerthin ydy sōn am ddrewdod! Ac mae Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart yn llyfr doniol iawn am fachgen bach or enw Ffred ai ffrind gorau yn y byd i gyd ei ffwlbart. Pan mae ffwlbart Ffred yn dechrau drewi un diwrnod, ar cymdogion yn dechrau cwyno, maer ffwlbart yn cael syniad gwych syn troir sefyllfa anffodus yn gyfle euraid! Dwin meddwl y bydd yn apelio at blant bach oherwydd ei hiwmor (pwy all beidio chwerthin am ben geiriau fel stinc bom a pongi?), y darluniau lliwgar a deinamig ar stori fach syml ond difyr.
Mi faswn in tybio bod hwn yn llyfr da i blant syn dechrau darllen eu hunain hefyd, gan nad oes llawer o eiriau ar bob tudalen. Un o fy hoff bethau am y llyfr yma ydyr llinellau byrion syn odli, felly maer storin llifon rhwydd ac maer ffordd mae Sioned Wyn Roberts wedi chwarae gydar odlau yn arwain at linellau doniol. Maen arddull syn gweddun dda ir gyfrol yma.
Maer bartneriaeth rhwng yr awdur ac artist yr arlunwaith, Bethan Mai, yn gweithion wych hefyd. Mae hin amlwg bod y ddwyn wedi deall ei gilydd ir dim wrth fynd ati i greu stori Ffred ai ffwlbart bach drewllyd. Ar bob tudalen mae lluniau deniadol, llawn bywyd syn adrodd y stori yn eu ffordd eu hunain. Dwin arbennig o hoff or darluniau o Anti Gyrti drws nesa ar ffordd maer blodau yn yr ardd yn trigo o ganlyniad ir drewdod, hyd yn oed! Mae hiwmor y geiriau yn treiddio ir darluniau hefyd, syn creu cyfrol apelgar.
Mae yna sawl cyffyrddiad syn gwneud y profiad o ddarllen i blentyn, neu efo nhw, yn ddifyr ir oedolion hefyd e.e. ambell air fel eau-de-ffwlbart yn enw ar bersawr, neu gyfeirio at afftershźf Taid. Maen debyg mair gyntaf mewn cyfres o lyfrau yn seiliedig ar rai o ddywediadau mwyaf od yr iaith Gymraeg yw hon ac, er nad oeddwn i wedi clywed y dywediad drewi fel ffwlbart, maen sicr yn fan cychwyn gwych ar gyfer llyfr stori a llun!
A dyna finnau hefyd wedi dysgu rhywbeth newydd trwy ddarllen llyfr i blant. Rwyn edrych ymlaen at weld rhagor yn cael eu cyhoeddi yn y gyfres yma. -- Mererid Haf Roberts @ www.gwales.com