Yn anaml iawn y daw ffynonellau newydd ar gyfer y Gymru ganoloesol gynnar ir amlwg. Ond dyma a geir yn llawysgrif Yale, Llyfrgell Beinecke, Osborn fb229 llawysgrif modern cynnar syn drysorfa o destunau hagiograffaidd. Ei thrysor mwyaf yw ei fersiwn unigryw o Fuchedd Cybi, a all gynnwys elfennau mor gynnar ār ddegfed neur unfed ganrif ar ddeg, gan gyflwyno tystiolaeth gwbl newydd am Gybi ai gwlt canoloesol. Nid am ei chopi o Fuchedd Cybi yn unig y maer gyfrol hon yn arwyddocaol. Fe ddengys yn ogystal sut yr aethpwyd ati i addasu gweithiau megis Buchedd Beuno a Buchedd Collen yn yr Oesoedd Canol diweddar ar cyfnod modern cynnar; tystia i weithgarwch rhwydweithiau Catholig ac unigolion megis Edward Morgan o Lys Bedydd, offeiriad Catholig a greodd y cyfieithiad unigryw o Fuchedd Gwenfrewy yn y llawysgrif hon, ac a ddienyddiwyd maes o law. Diogelwyd y testunau hyn oll gan ysgrifydd amryddawn y llyfr, Robert Davies o Wysanau, Sir y Fflint, a chawn gyflwyniad iw fywyd, ei weithgarwch ai ddiddordebau eang.