Fel mae teitl y nofel hon yn ei awgrymu, mae hud yn thema gref yn y gyfrol wych hon. Ar y cyfan, ni chaiff y thema hud a lledrith lawer o sylw mewn llyfrau Cymraeg, ond maer nofel hon yn llenwi rhywfaint ar y bwlch hwnnw trwy gynnig y cyfle i ddarllenwyr ymgollin llwyr mewn byd ffantasi llawn hud a dirgelwch.
Maer stori yn canolbwyntio ar antur un diwrnod i ddau gymeriad syn ffinio ar daror glasoed. Yn gyntaf, cyflwynir Llr i ni, dewin yn ei arddegau syn ysu am antur a chyffro yn ei fywyd. Yn ail, cyflwynir Dōn, sef merch ddeuddeg oed syn byw mewn byd hollol wahanol i Llr, er eu bod yn byw dafliad carreg oi gilydd. Maer ddau yn perthyn i ddau lwyth gwahanol iawn o bobl mae Llr yn un or Dewiniaid āu byd o swyn, a Dōn yn un or Rhyfelwyr syn ymwrthod yn llwyr ā hud. Yn fuan yn y stori, dawr ddau i gyswllt am y tro cyntaf erioed, a chaiff y darllenydd ymuno ar antur syn arwain trwy ddau fyd ffantasļol cyffrous.
Wrth ir antur fynd rhagddi, cyflwynir cymeriadau o bob lliw a llun cigfran ddoeth or enw Crawchog; cawr enfawr or enw Dolur; tylwyth twp gydag enwau fel Pry-pi a Cachgibwgan; cath eira iw marchogaeth; bleiddiaid; arth; ysbrydion; gwrach sydd ā hud drwg; ac anifail anwes syn llwy hudol! Oes mae creadigrwydd a dychymyg hynod tu cefn ir cymeriadau amrywiol hyn!
Rhaid canmol creadigrwydd yr awdur wrth enwir holl gymeriadau difyr hefyd; mae yma ddefnydd o eirfa ddiddorol a lliwgar drwyddi draw, gan fentron bell or Saesneg gwreiddiol a rhoi blas trwyadl Gymreig ar y cyfan. Fel y gellid dychmygu o ddarllen rhai or enwau doniol, mae tipyn o hiwmor iw gael rhwng cloriaur gyfrol hefyd, wrth i ambell gymeriad wneud penderfyniadau twp neu ddweud pethau dros ben llestri maen amhosib peidio chwerthin yn uchel ar adegau!
Elfen arall syn gwneud y nofel yn bleser iw darllen ywr defnydd o luniau, sgetsys, a mapiau. Does dim llawer iawn o dudalennau dwbl sydd ddim yn cynnwys yr elfen ddiddorol hon maen ychwanegu ychydig o hwyl ir darllen, ac yn sicrhau nad ywr nofel yn teimlon faich iw darllen, er mor drwchus ywr gyfrol, syn allweddol bwysig o gofio mai apelio at ddarllenwyr iau ywr nod. Mae hefyd yn ychwanegu at gynnwys y stori, gan gynnig lluniau or creaduriaid hynod er mwyn cynorthwyor dychymyg, ac esboniadau pellach ar faterion megis swynau hudol.
Dymar gyntaf yng nghyfres Yr Hudlath ar Haearn; os ydych chin mentro i fyd y nofel hon, byddwch yn sicr yn awchu i bori drwyr gyfres gyfan. -- Awen Schiavone @ www.gwales.com